Link Search Menu Expand Document
CY / EN

Safonau Gwasanaethau Digidol i Gymru

O’i roi yn syml, yr hyn yw Safonau Gwasanaethau Digidol yw set o safonau y gall unrhyw un eu dilyn i wneud yn siŵr bod anghenion y defnyddiwr yn ganolog bob amser i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u cyflenwi.

Dylai ffocws digyfaddawd ar anghenion defnyddwyr gwasanaethau fod wrth wraidd y ffordd y darparwn wasanaethau cyhoeddus. Mae cytuno ar set o safonau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru, a’u haddasu, eu hyrwyddo a’u cynnal, yn allweddol. Yn CGDC, rydym eisiau cynorthwyo’r bobl sy’n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fodloni safonau a fydd yn gwella profiadau pobl yng Nghymru. Gall gwirio’n rheolaidd yn erbyn set o safonau cytûn ddarparu ffocws, cyflymdra a her.

Nid yw’r ymagwedd hon yn un newydd. Yn wir, mae llywodraethau yn y DU ac yn fyd-eang wedi cyflwyno safonau gwasanaethau ac yn eu defnyddio i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau sy’n gweithio. Ceir rhai enghreifftiau gwych o’r rhain yn https://www.gov.uk/service-manual/service-standard a https://playbook.cio.gov/.

Heb fod eisiau dechrau o’r dechrau unwaith eto, rydym wedi defnyddio’r rhain fel y sail ar gyfer set gychwynnol o safonau gwasanaethau digidol i Gymru. A chredwn fod angen ei safonau ei hun ar Gymru. Mae ein hanghenion yn gwahaniaethu a dylai ein polisïau a’n hymagweddau gael eu hadlewyrchu yn y safonau a bennwn. Un enghraifft o hyn yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 A htihau’n arddel ymagwedd flaenllaw yn y byd, ac yn benodol i Gymru’n unig, mae’r Ddeddf hon yn pennu’r 7 nod llesiant Cymru y dylai pob un ohonom fod yn gweithio tuag atynt. Gall gwreiddio’r rhain yn ein safonau gwasanaethau digidol newydd helpu cyflymu a hyrwyddo eu mabwysiadu wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru — gan ddarparu gwell gwasanaethau i genedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

Rydym wedi creu drafft cyntaf o’n safonau gwasanaethau digidol y gallwch eu gweld isod, a hoffem glywed eich barn amdanynt nawr. Beth sy’n gweithio, beth sydd ar goll a beth sydd ei angen i wneud y rhain yn asgwrn cefn cyflenwi’r holl wasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru?

Dydd Mercher, 7 Hydref, byddwn yn cynnal gweminar ‘Safonau Gwasanaethau Digidol i Gymru, beth sydd ei angen a pham?’ Mae’r weminar yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflenwi gwasanaethau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Ymunwch â’n Rheolwr Rhaglenni Tim Daley i ddysgu mwy am y syniadaeth y tu ôl i’r safonau hyn, a rhoi eich mewnbwn a’ch adborth i’r drafft terfynol. Gallwch gofrestru yma neu cysylltwch â ni yn info@digitalpublicservices.gov.wales gyda’ch adborth.

Safonau Gwasanaethau Digidol Drafft i Gymru

Alffa yw hwn rydym yn ei rannu yn yr agored er mwyn cael adborth.

Cymerom ysbrydoliaeth o safonau digidol eraill ledled y byd (gan gynnwys y rheiny a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru). Maent yn egluro beth a ddisgwylir gan wasanaethau digidol newydd neu wasanaethau a ailddyluniwyd, a ariennir gan sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym eisiau cydweithio â phobl ar hyd a lled Cymru i ailadrodd y fersiwn hon a gwella arni.

  1. Canolbwyntio ar lesiant pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol
  2. Hyrwyddo’r Gymraeg
  3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion
  4. Ailadrodd a gwella’n aml
  5. Defnyddio data ac ymchwil defnyddwyr i wneud penderfyniadau
  6. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch drwyddi draw
  7. Mae angen perchennog gwasanaethau wedi’i rymuso ar bob gwasanaeth
  8. Mae angen tîm amlddisgyblaethol ar bob gwasanaeth
  9. Defnyddio technoleg a allai ehangu’n gyflym
  10. Gweithio mewn ffordd agored

Yn fanylach:

1. Canolbwyntio ar lesiant pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol

Rydym yma i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru. Dylem gael ein hysgogi gan ganlyniadau sy’n fanteisiol iddynt, nid gan restrau o fanylebau neu ofynion technegol. Mae dylunio gwasanaethau digidol yn golygu meddwl am y dyfodol lawn gymaint â’r ffordd rydym yn meddwl am heddiw. Dylai timau ystyried llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a meddwl am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Dylai gwasanaethau gyfrannu at 7 nod llesiant Cymru.

2. Hyrwyddo’r Gymraeg

Dylai gwasanaethau yng Nghymru fodloni anghenion pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Dylai timau ddylunio ac adeiladu gwasanaethau sy’n hyrwyddo ac yn hwyluso’r Gymraeg, a dylent drin defnyddwyr sy’n ei siarad yn gyfartal â’r rheiny y mae’n well ganddynt siarad Saesneg.

  1. Deall defnyddwyr a’u hanghenion

Dylai anghenion defnyddwyr ysgogi cynllunio gwasanaethau, pwy bynnag yw’r defnyddwyr hynny. Mae anghenion defnyddwyr yn bwysicach na chyfyngiadau strwythurau busnes, seilos sefydliadol neu dechnolegau.

Dylai timau amcanu at fynd i’r afael â thaith y defnyddiwr o’r dechrau i’r diwedd, gan ddeall gwahanol ffyrdd a sianeli pobl wrth ryngweithio â gwasanaethau, boed ar-lein, dros y ffôn, neu’n bersonol. Mae gwasanaethau cyhoeddus i bawb, felly mae’n hanfodol ystyried hygyrchedd. Dylai pob cysylltiad, ar-lein neu all-lein, symud defnyddiwr yn agosach at ei nod.

4. Ailadrodd a gwella’n aml

Dylem ddefnyddio dull datblygu cynyddrannol a chyflym o gael meddalwedd ymarferol i ddwylo defnyddwyr mor gynnar ag y bo modd, mor aml ag y bo modd. Bydd hyn yn helpu timau i ailadrodd yn gyflym, ar sail adborth defnyddwyr.

5. Defnyddio data ac ymchwil defnyddwyr i wneud penderfyniadau

Dylem fesur yn gyson pa mor dda mae gwasanaethau yn cyflawni ar gyfer defnyddwyr. Dylai timau ddefnyddio data perfformiad i ganfod a blaenoriaethu gwelliannau. Lle bo modd, dylai’r data hwnnw fod yn awtomataidd ac amser real, i’w wneud mor wrthrychol a hawdd ei gasglu ag y gall fod.

Dylai timau gynnal ymchwil defnyddwyr ar newidiadau ailadroddol i’w gwasanaethau. Dylai uwch arweinwyr gymryd rhan mewn ymchwil yn rheolaidd, er mwyn cadw mewn cysylltiad â’r gwaith.

6. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch drwyddi draw

Rhaid i wasanaethau digidol warchod gwybodaeth sensitif a chadw data’n ddiogel. Dylai timau asesu, deall a mynd i’r afael â materion moesegol sy’n gysylltiedig â’r holl wasanaethau digidol ym mhob cam o’u datblygiad.

7. Mae angen perchennog gwasanaethau wedi’i rymuso ar bob gwasanaeth

Dylai fod un perchennog gwasanaethau wedi’i rymuso sydd â’r awdurdod a’r cyfrifoldeb i wneud pob penderfyniad busnes, cynnyrch, a thechnegol ynghylch gwasanaeth.

Mae’r un unigolyn yn atebol ac yn gyfrifol am ba mor dda mae’r gwasanaeth yn bodloni anghenion ei ddefnyddwyr, sef y modd y caiff ei lwyddiant ei werthuso.

8. Mae angen tîm amlddisgyblaethol ar bob gwasanaeth

Y modd yr adeiladwn wasanaethau ar gyfer Cymru, dyna yw timau. Dylai pob un fod yn gymysgedd amrywiol o bobl, profiad, arbenigedd a disgyblaethau.

Yn ogystal â bod â’r cymysgedd iawn o sgiliau a phrofiad ar gyfer y cyfnod datblygu cyfredol, dylai’r tîm allu egluro sut gallai cyfansoddiad y tîm newid dros gyfnod, a pha gyllid fydd ei angen i gefnogi tîm sy’n gyfrifol am wella’r gwasanaeth yn barhaus.

9. Defnyddio technoleg a allai ehangu’n gyflym

Dylem wneud penderfyniadau technoleg sy’n helpu timau i wneud eu gwaith a chyflawni. Dylem amcanu bob amser i ddefnyddio’r offeryn symlaf, mwyaf priodol, ac osgoi unrhyw drefniadau cloi gan y gwerthwr wrth dechnolegau penodol.

Dylai timau fod wedi’u grymuso i ddefnyddio offer sy’n gweithio iddyn nhw, a’u hannog i ystyried offer sy’n bodloni safonau agored, yn seiliedig ar gwmwl, ac sy’n cael eu mabwysiadu a’u cefnogi’n eang.

10. Gweithio mewn ffordd agored

Dylem amcanu at wneud y gwasanaethau a adeiladwn, a’r technegau a ddefnyddiwn i’w hadeiladu, mor agored ag y bo modd.

Wrth iddynt ddatblygu gwasanaeth, dylai timau gyfathrebu’n agored ynglŷn â’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud a beth maent yn ei ddysgu. Dylent hefyd rannu codau, patrymau a chipolygon mor rhydd ag y bo modd er mwyn helpu rhai eraill sy’n ceisio adeiladu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghymru.